Am


Cynhadledd ddeuddydd fydd Gorffennol Digidol ac ynddi fe arddangosir technolegau digidol arloesol ar gyfer dal, dehongli a lledaenu data am safleoedd ac arteffactau treftadaeth. Hon fydd y bedwaredd flwyddyn, a chynhelir Gorffennol Digidol 2012 yn nhref hanesyddol Llandrindod. Cynigir cyfuniad o bapurau, seminarau, gweithdai ymarferol ac arddangosiadau i ymchwilio i’r technegau arolygu a dehongli diweddaraf a’u cymhwyso’n ymarferol at ddehongli ac addysgu treftadaeth a sicrhau ei chadwraeth.

Bydd y gynhadledd o werth i unrhyw un sydd wrthi’n gweithio neu’n astudio yn y sector archaeoleg a’r sectorau treftadaeth, addysg ac amgueddfeydd. Y bwriad yw iddi fod yn fodd i rwydweithio a chyfnewid syniadau’n anffurfiol ymhlith cynulleidfa gyfeillgar ac amrywiol o unigolion o fyd masnach, o sefydliadau’r sector cyhoeddus ac o’r trydydd sector. Bydd sesiynau Tŷ Agored hefyd yn gyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â mudiadau treftadaeth, datblygwyr cynhyrchion a manwerthwyr.